CIVE 2025

Please Share Rhannwch Plîs

This year we secured funding from the Millenium Stadium fund and purchased equipment for families and groups of all ages to play a variety of games on the community field and in the village hall.

We also secured funding from Awards for All Wales to help with hall rental and to support the running of our current groups plus to develop some new activities. This funding also pays for volunteer training and DBS checks and some funding for more new equipment.

The C.I.V.E Committee is Chaired by Ben Graham, who also takes the lead on Family Games , The Treasurer is Mark Fenn ( Although Mark and Jane have now moved to Narberth they are still actively involved supporting this community), Natasha James (who has developed the website for us and takes the lead with Craft and Chat and Film Partnerships), Melissa Binet Fauvel who takes the lead on Coffee and Chat and supports Ben with Family games and Craft initiative, May Clegg who takes the lead on The Plant Exchange and supports the committee with all other activities. Jane Fenn still supports the committee behind the scenes with administration, fundraising, and governance. The CIVE committee try to meet monthly and community members are welcome to attend to meetings, please let us know if you are interested in attending email committee@cive.cymru

The Capel Iwan Village Events WhatsApp group with and Capel Iwan Village Events Facebook Group have grown in number this year.

We now have a website www.cive.cymru please have a look. We will keep this updated with all dates for 2026 and relevant community news.

We ran a Seed and Plant exchange in May that was very well attended, and everyone seemed to enjoy the morning. Next one booked for 9th May 2026 10.30 – 12.30

The Coffee and Chat Groups continue 1st and third Thursday of the month with a time change of 10-12 now. All booked in for 2026 starting Jan 15th 2026

The Craft and Chat Group continue on 2nd and 4th Thursday of the month with a time change to 5.30-7.30pm. all booked in for 2026 starting Jan 8th 2026.

We held Family Games on the field and in the hall this year and all very well attended. We hope to build on this for 2026 offering more Family Game opportunities and the establishment of a Petanque Court on the field behind the hall.

A successful Craft Day was run this year, with the opportunity to try out different crafts, we plan for two more Craft Days in 2026, dates to follow.

Film partnership with Newcastle Emlyn community group, Cadernid and Attic Theatre has been sold out on all three films and we hope to develop this partnership in 2026.

November 29th 2025 We showed a Capel Iwan Community Archive and hope to collect more stories from the community. Plans include more films about our community.

The Christmas Tree is now planned as an annual event and hopefully in 2026 we can organise carols around the tree with a social event too.

We have contributed additional rental income to Capel Iwan Community Centre.

Thank you all for your support.

Eleni, derbyniwyd cyllid gan gronfa Stadiwm y Mileniwm a phrynwyd offer i deuluoedd a grwpiau o bob oed fel y gallan nhw chwarae amrywiaeth o gemau yn y cae cymunedol ac yn neuadd y pentref.

Derbyniwyd hefyd gyllid gan Arian i Bawb Cymru i helpu gyda rhentu’r neuadd ac ar gyfer rhedeg ein grwpiau presennol, yn ogystal â datblygu rhai gweithgareddau newydd. Mae’r cyllid hwn hefyd yn talu am hyfforddiant i wirfoddolwyr a gwiriadau DBS, a defnyddir rhywfaint o’r arian am ragor o offer newydd.

Cadeirydd Pwyllgor C.I.V.E yw Ben Graham, sydd hefyd yn gyfrifol am y Gemau i’r Teulu. Y Trysorydd yw Mark Fenn (er bod Mark a Jane bellach wedi symud i Arberth, maen nhw’n dal i fod yn weithgar wrth gefnogi’r gymuned hon). Natasha James (sydd wedi datblygu’r wefan i ni) sy’n gyfrifol am y sesiynau ‘Clonc a Chrefft’ a’r Partneriaethau Ffilm. Melissa Binet Fauvel sy’n gyfrifol am y sesiynau ‘Clonc a Choffi’ ac mae’n cefnogi Ben gyda’r Gemau i’r Teulu a’r Diwrnod Crefftau. May Clegg sy’n gyfrifol am y Gyfnewidfa Blanhigion ac mae hefyd yn cefnogi’r pwyllgor gyda’r holl weithgareddau eraill. Mae Jane Fenn yn dal i gefnogi’r pwyllgor y tu ôl i’r llenni gyda gwaith gweinyddol, codi arian a llywodraethiant. Mae pwyllgor C.I.V.E yn ceisio cyfarfod yn fisol ac mae croeso i aelodau’r gymuned fynychu’r cyfarfodydd. Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu. Anfonwch e-bost at pwyllgor@cive.cymru

Mae grŵp WhatsApp Digwyddiadau Pentref Capel Iwan a Grŵp Facebook Digwyddiadau Pentref Capel Iwan wedi tyfu o ran eu niferoedd eleni.

Mae gennym bellach wefan, sef www.cive.cymru, felly cymerwch olwg arni. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r wefan â’r holl ddyddiadau ar gyfer 2026 ac yn cyhoeddi unrhyw newyddion perthnasol am y gymuned.

Fe wnaethon ni gynnal sesiwn cyfnewid hadau a phlanhigion ym mis Mai a daeth nifer dda iddi, gyda phawb i’w gweld wedi mwynhau’r bore. Mae’r un nesaf wedi’i bwcio ar gyfer 9 Mai 2026 (10:30am–12:30pm)

Mae’r Grwpiau ‘Clonc a Choffi’ yn dal i gael eu cynnal ar ddydd Iau cyntaf a thrydydd dydd Iau y mis, ond mae’r amser bellach wedi’i newid i 10am–12pm. Mae’r neuadd wedi’i bwcio ar eu cyfer, a byddan nhw’n dechrau ar 15 Ionawr 2026.

Mae’r Grŵp ‘Clonc a Chrefft’ yn dal i gael ei gynnal ar yr ail a’r pedwerydd dydd Iau o’r mis, gyda’r amser wedi newid i 5:30–7:30pm. Mae pob sesiwn wedi’i bwcio ar gyfer 2026, gan ddechrau ar 8 Ionawr 2026.

Fe wnaethon ni gynnal Gemau i’r Teulu yn y cae a’r neuadd eleni, a daeth niferoedd da i gymryd rhan ynddyn nhw. Rydyn ni’n gobeithio adeiladu ar hyn yn 2026 a chynnig rhagor o Gemau i’r Teulu a sefydlu Cwrt Petanque ar y cae y tu ôl i’r neuadd.

Cynhaliwyd Diwrnod Crefftau llwyddiannus eleni, a chafwyd cyfle i roi cynnig ar wahanol grefftau. Rydyn ni’n bwriadu cynnal dau Ddiwrnod Crefftau arall yn 2026. Byddwn yn cadarnhau’r dyddiadau maes o law.

Mae’r bartneriaeth ffilm gyda’r grŵp cymunedol o Gastellnewydd Emlyn, Cadernid ac Attic Theatre, wedi gwerthu pob tocyn ar gyfer pob un o’r tair ffilm, ac rydyn ni’n gobeithio datblygu’r bartneriaeth hon yn 2026.

Ar 29 Tachwedd 2025, dangoswyd Archif Gymunedol Capel Iwan ac rydyn ni’n gobeithio casglu rhagor o straeon gan ein cymuned. Mae’r cynlluniau’n cynnwys rhagor o ffilmiau am ein cymuned.

Mae’r Goeden Nadolig bellach wedi’i chynllunio fel digwyddiad blynyddol, a gobeithio y gallwn drefnu carolau o amgylch y goeden yn 2026 yn ogystal â digwyddiad cymdeithasol.

Rydyn ni wedi cyfrannu unrhyw incwm ychwanegol o rentu i Ganolfan Gymunedol Capel Iwan.

Diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth.